SL(5)284 - Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) 2018
Cefndir a Diben
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a gweithredwyr meysydd awyr heb eu dynodi (nad oes dim un yng Nghymru ar hyn o bryd) ddefnyddio'r dulliau asesu a nodir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 25 Mehefin 2002 yn ymwneud ag asesu a rheoli sŵn amgylcheddol.
Disodlwyd Cyfarwyddeb 2002 gan yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2015/996, sydd wedi sefydlu dulliau asesu sŵn cyffredin wrth baratoi mapiau sŵn strategol o dan Reoliadau 2006.
Y weithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu ac yn gorfodi rhwymedigaethau'r UE o ran sŵn amgylcheddol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o "ddeddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE" o dan adran 2 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, felly bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu cadw fel cyfraith ddomestig a byddant yn parhau i fod mewn grym yng Nghymru ar ôl y diwrnod ymadael.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
29 Tachwedd 2018